OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 3138 (Cy. 311)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 er mwyn ymdrin ag effaith taliad annibyniaeth y lluoedd arfog ar y profion modd ar gyfer derbyn grantiau cyfleusterau i’r anabl.
Mae’r rhain yn cynnwys: diwygiadau yn ymwneud â gostwng yr incwm asesiedig er mwyn ystyried taliadau gofal plant, diwygiadau yn ymwneud â’r hawl i bremiymau penodol pan fo personau anabl neu aelodau o’u haelwydydd yn derbyn taliad annibyniaeth y lluoedd arfog, a diwygiad er mwyn diystyru taliad annibyniaeth y lluoedd arfog wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion.
Mae taliad annibyniaeth y lluoedd arfog yn gymwys i’r premiwm plentyn anabl pan fo’r person ifanc dan sylw yn ddigon hen i gael ei gyflogi yn y lluoedd arfog.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 3138 (Cy. 311)
tai, cymru
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2013
Gwnaed 10 Rhagfyr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Rhagfyr 2013
Yn dod i rym 29 Ionawr 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 30, a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996([1]), a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru([2]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([3]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2013 a deuant i rym ar 29 Ionawr 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996
2.—(1) Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996([4]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn rheoliad 2(1)([5]) (dehongli) yn y man priodol mewnosoder—
““armed forces independence payment” means armed forces independence payment under the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2011([6]);”.
(3) Yn rheoliad 19 (trin taliadau gofal plant)([7])—
(a) ar ôl paragraff (3)(d)(viii) mewnosoder—
“(ix) armed forces independence payment;”;
(b) hepgorer “or” ar ddiwedd paragraff (8)(b)(iii); ac
(c) ar ôl paragraff (8)(b)(iv) mewnosoder—
“; or
(v) in respect of whom armed forces independence payment is payable”.
(4) Yn Atodlen 1 (symiau sy’n gymwys)—
(a) ym mharagraff 12(1)(a)(i) (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm pensiynwr uwch a’r premiwm anabledd), ar ôl “disability living allowance” mewnosoder “, armed forces independence payment”;
(b) ym mharagraff 13 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (2)(a)(i) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act” mewnosoder “or armed forces independence payment”;
(ii) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act([8])” mewnosoder “or armed forces independence payment”; a
(iii) ar ôl is-baragraff (5)(c) mewnosoder—
“; or
(d) a person receiving armed forces independence payment”;
(c) ym mharagraff 13A (uwch bremiwm anabledd)([9]), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
“; or
(d) armed forces independence payment is payable,”;
(d) ym mharagraff 14 (premiwm plentyn anabl) ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—
“; or
(e) is a young person who is in receipt of armed forces independence payment”; ac
(e) ym mharagraff 15(2)(b) (premiwm gofalwr)([10]) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act” mewnosoder “or armed forces independence payment”.
(5) Yn Atodlen 1A (symiau sy’n gymwys ar gyfer personau sydd wedi cyrraedd yr oedran sy’n eu gwneud yn gymwys i gredyd pensiwn y wladwriaeth, neu y mae eu partner wedi cyrraedd yr oedran hwnnw)([11])—
(a) ym mharagraff 7 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (2)(a)(i) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act” mewnosoder “or armed forces independence payment”;
(ii) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act” mewnosoder “or armed forces independence payment”;
(iii) ar ôl is-baragraff (5)(c) mewnosoder—
“or
(d) a person receiving armed forces independence payment”;
(b) ym mharagraff 8 (uwch bremiwm anabledd) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“or
(c) in respect of a young person, armed forces independence payment is payable,”;
(c) ym mharagraff 9 (premiwm plentyn anabl) ar ôl paragraff (9)(1)(d) mewnosoder—
“; or
(e) is a young person in receipt of armed forces independence payment”.
(6) Yn Atodlen 3 (symiau sydd i’w diystyru wrth benderfynu incwm ac eithrio enillion), ym mharagraff 5, ar ôl “disability living allowance” mewnosoder “armed forces independence payment”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2013
([2]) Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 30, 146(1) a 146(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
([3]) Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 30, 146(1) a 146(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
([4]) Diwygiwyd O.S. 1996/2890 o ran Cymru gan O.S. 2004/253 (Cy.28), O.S. 2006/2801 (Cy.240), O.S. 2010/297 (Cy.39) ac O.S. 2013/552 (Cy.62). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.